Matching Gifts/cy

From Wikimedia Foundation Governance Wiki
Revision as of 20:35, 11 September 2013 by Pcoombe (WMF) (talk | contribs) (Created page with "{{Languages}} __NOTOC__ ==Rhoddion Cyfatebol== Gallwch o bosib ddyblu neu dreblu eich rhodd i Sefydliad Wicifryngau drwy gynllun Rhoddion Cyfatebol. Mae nifer o gwmnïau yn c...")
(diff) ← Older revision | Latest revision (diff) | Newer revision → (diff)


Rhoddion Cyfatebol

Gallwch o bosib ddyblu neu dreblu eich rhodd i Sefydliad Wicifryngau drwy gynllun Rhoddion Cyfatebol. Mae nifer o gwmnïau yn cefnogi rhoi dyngarol ar ran eu gweithwyr drwy gynnig cynllun rhoi cyfatebol. Gallwch gynyddu gwerth eich rhodd, heb iddo gostio dim i chi, drwy fanteisio ar gynllun rhoi cyfatebol eich cyflogwr. A wnewch chi ofyn i'ch adran Adnoddau Dynol a fyddent yn fodlon rhoi i Sefydliad Wicifryngau yn gyfateb i'ch rhodd eich hunan, os gwelwch yn dda.

Sut mae'r cynllun hwn yn gweithio?

Er bod cynlluniau rhoi cyfatebol yn amrywio o gwmni i gwmni, fel arfer mae'r broses yn un syml iawn:

  1. Cadarnhewch bod gan eich cyflogwr gynllun rhoi cyfatebol a mynnwch y ffurflenni Rhoddion Cyfatebol gan eich cyflogwr
  2. Llanwch y ffurflen a'i hanfon at Sefydliad Wicifryngau, i'r cyfeiriad hwn:
    Wikimedia Foundation, Inc.
    P.O. Box 98204
    Washington, DC 20090-8204 USA
  3. neu trwy ebost at: matching@wikimedia.org
  4. Fe fydd Sefydliad Wicifryngau yn gwirio'ch rhodd ac yn anfon y ffurflen yn ôl at eich cyflogwr
  5. Bydd eich cyflogwr yn anfon rhodd gyfatebol i Sefydliad Wicifryngau
  6. Dylid anfon rhoddion cyfatebol at:
Er gwybodaeth, 20-0049703 yw ein Cyfeirnod Treth yn yr Unol Daleithiau.

Yr Ymgyrch Ffederal Gyfun

Mae Sefydliad Wicifryngau ar restr y sefydliadau cenedlaethol/rhyngwladol annibynnol, sef y Rhestr Elusennau a gedwir gan Ymgyrch Ffedral Gyfun (CFC) yr Unol Daleithiau, yn 2011. 61478 yw ein cyfeirnod. 61478.

Sefydliadau sydd wedi cefnogi Sefydliad Wicifryngau drwy haelioni eu gweithwyr

Mae llawer o bobl ynghyd â'u cyflogwyr eisoes wedi rhoi ar y cyd i Sefydliad Wicifryngau. Rydym yn ddiolchgar iddynt am eu cefnogaeth a'u haelioni. Mae rhestr ohonynt yn dilyn, gyda dolenni at wybodaeth am eu cynllun rhoi cyfatebol: